Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 29 Ebrill 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.15 - 12.30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Graham AC (Cadeirydd) Jeff Cuthbert AC Byron Davies AC Keith Davies AC Eluned Parrott AC Joyce Watson AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru Andrew Godfrey, Boots a Chonsortiwm Manwerthu Prydain Russell Greenslade, Ardal Gwella Busnes Abertawe Neil Hemington, Llywodraeth Cymru Rhiannon Kingsley, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Ojay McDonald, Y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd Kath Palmer, Llywodraeth Cymru Antonia Pompa, Ardal Gwella Busnes Merthyr Tudful Steffan Roberts, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Clerc) Rachel Jones (Dirprwy Glerc) Ben Stokes (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas, Dafydd Elis-Thomas, Mick Antoniw a Rhun ap Iorwerth.
2 Adfywio canol trefi - craffu dilynol
2.1 Atebodd Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Kath Palmer, Steffan Roberts a Neil Hemington gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth bellach am yr hyn a ganlyn:
· Nodyn ar nifer yr ymwelwyr â Bargoed, yn dilyn gosod archfarchnad Morrisons yng nghanol y dref.
· Gwybodaeth am y meini prawf a ddefnyddir i ddyrannu cyllid o’r gronfa trechu tlodi, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, ac eglurhad o ran sut mae’n cyd-fynd â’r polisi ‘canol trefi yn gyntaf’ gan gyfeirio’n benodol at yr enghraifft o’r cyllid a ddarperir ar gyfer Ynys y Bari.
· Nodyn i egluro pam y mae’n ymddangos bod polisi ‘canol trefi yn gyntaf’ Llywodraeth Cymru dim ond yn cael ei roi ar waith yn sgil datblygiadau manwerthu heb ystyriaeth o leoliad swyddfeydd neu wasanaethau a staff awdurdodau lleol.
3 Adfywio canol trefi
3.1 Atebodd Andy Godfrey gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.
4 Adfywio canol trefi
4.1 Atebodd Russell Greenslade, Antonia Pompa, Ojay McDonald a Rhiannon Kingsley gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.
4.2 Cytunodd Ojay McDonald i ddarparu copi o adroddiad y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd ar ei hymgynghoriad ar ardrethi busnes pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben.
4.3 Cytunodd Russell Greenslade i ddarparu gwybodaeth bellach am fanteision Ardaloedd Gwella Busnes a gweithgareddau Ardal Gwella Busnes Abertawe.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Adroddiad gan yr ATCM ar Barcio mewn Canol Trefi (Saesneg yn unig)
5.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.